Caernarfon: 01286 672391

Hanes y Gymdeithas

Ar 24 Awst 1904 cafwyd cyfarfod hanesyddol yng Ngwesty Pen y Baedd, Caerfyrddin, pan ddaeth bridwyr gwartheg Duon Cymreig o ogledd a de Cymru ynghyd i ffurfio'r Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig. Byddai'r 25 o fridwyr a oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw wedi ymfalchïo yn y ffordd y mae'r Gymdeithas wedi datblygu – o fod yn sefydliad traws-Gymru i fod yn sefydliad byd eang ac aelodau a gwartheg ar bob cyfandir.

Y Llywydd cyntaf oedd Mr RM Greaves o'r Wern, Porthmadog, a Mr James Thomas, Hwlffordd oedd yr Ysgrifennydd cychwynnol. Roedd y Llyfr Buchesi cyfunol cyntaf, a gyhoeddwyd yn 1905, yn cynnwys 211 o deirw a 698 o wartheg benyw. Cyhoeddwyd canfed cyfrol Llyfr Buchesi'r Gymdeithas yn 2012.

Cynhaliwyd arwerthiant swyddogol cyntaf y Gymdeithas ym Mhorthaethwy, Ynys Môn ar 26 Mawrth 1915. Y diwrnod hwnnw cofrestrwyd 46 o anifeiliaid i'w gwerthu. Y prisiau uchaf a gafwyd oedd 50 gini am darw a 25 gini am fuwch.

Bu'n amhosibl cynnal marchnadoedd rheolaidd yn ystod dirwasgiad amaethyddol y 1920au a 1930au. Ar ôl cynnal arwerthiant llwyddiannus yn Nolgellau yn 1957, daeth marchnad y dref yn brif ganolfan werthu i fridwyr gwartheg Duon Cymreig. Bellach cynhelir arwerthiannau yn Nolgellau, Llanymddyfri a'r Fenni.

Dros y blynyddoedd mae gwartheg Duon Cymreig wedi ennill llu o wobrau a chlod diddiwedd, ond mae un flwyddyn yn nodedig. Yn 2000, blwyddyn y gwartheg Duon Cymreig oedd hi yn y cylchoedd arddangos. Cipiodd y brid y rhan fwyaf o'r prif wobrau – Tlws Burke am y Pâr Gorau o Wartheg Cig Eidion yn Sioe Frenhinol Lloegr; gwobr debyg yn Sioe Frenhinol Cymru; Tlws Fitzhugh a Chwpan y Frenhines am y Brid Brodorol Prydeinig yn Sioe Smithfield. Roedd llawer o'r llwyddiant hwn yn ddyledus i bâr nodedig o anifeiliaid wedi'u magu yng Nghymru, sef Mynydd William 2il a Mynydd Marigold 2il a oedd yn eiddo i Martin Stewart a'i deulu o Fae Colwyn. Roedd yn gychwyn gwych i'r mileniwm newydd ac yn hwb aruthrol i'r Gymdeithas.

Ni fu'r Gymdeithas yn fodlon aros yn ei hunfan, a chafwyd hwb i'w hymdrechion i ddatblygu'r brid a gwella iechyd y buchesi trwy gyfrwng arian Ewropeaidd Amcan 5b. Bu modd cael rhaglen brofion ar gyfer Clefyd Johne a bellach mae'r holl wartheg yn arwerthiannau’r Gymdeithas yn dod o fuchesi a gafodd eu profi ar gyfer y clefyd hwn. Â chymorth ariannol gan HCC, bu modd i'r Gymdeithas wneud profion perfformiad yn IBERS, Aberystwyth. Mae cyfraddau twf/cynnydd pwysau byw dyddiol, cyhyredd ac effeithlonrwydd trosi porthiant yn dangos y canlyniadau da y gellir eu cael gan wartheg Duon Cymreig.

Mae’r Gymdeithas yn dal i wella'r gwartheg a hybu marchnata Cig Eidion Du Cymreig sy'n mynd yn fwy poblogaidd oherwydd ei flas diguro a'r olrheinedd sy'n ganlyniad i dros gan mlynedd o gofrestru anifeiliaid purlinach. Mae gwartheg Duon Cymreig yn cynyddu yn eu nifer, nid yn unig yng Nghymru a Lloegr ond hefyd mewn rhannau eraill o'r byd, o Ewrop i Awstralia.