Caernarfon: 01286 672391

Y Fuwch Ddu Gymreig

Golwg Gyffredinol, Teip a Cherddediad
Dyfnder a hyd da, a mwy o ddyfnder yn y chwarteri ôl na'r chwarteri blaen. Cefn syth. Yn cerdded yn rhwydd.

Y Pen a'r Cyrn
Hyd cymedrol, talcen llydan a dyfnder yn yr ên: y llygaid yn fawr, llonydd ac amlwg: y clustiau'n weddol fawr â gorchudd trwchus o flew meddal y cyrn yn ddi-nam ac yn ymledu'n dda Cyhyd ag y bo'r cyrn yn tyfu'n syth o'r pen, nid yw eu cyfeiriad wedyn yn orbwysig, ond mae'n well os ydynt yn weddol wastad ac os yw eu blaenau'n troi ychydig tuag i fyny. (Wrth reswm, nid yw'r cyfeiriad at gyrn yn berthnasol i Wartheg Moel)

Y Gwddf
Yn ddi-nam a chadarn; blaen y gwddf mor lân â phosibl.

Yr Ysgwyddau
Heb arwedd, yn asio'n dda â gweddill y corff, a phont yr ysgwydd heb fod yn sefyll allan.

Y Corff
Yn fawr a digon o le yn y canol, yr asennau'n hydwyth, dwfn a chryf dros y lwynau ynghyd â bôn cynffon sy'n asio'n dda, a'r asgwrn heb fod yn sefyll allan.


Y Morddwydydd, Coesau Ôl a Thraed
Y morddwydydd yn llydan ond heb fod yn rhy drwchus, yn cyrraedd at y garrau, a digon o le rhwng y garrau. Y coesau ôl yn syth o'r garrau i'r meilwng. Traed holliach.

Y Gadair
O gymedrol i fawr ei maint ond heb fod yn gnawdog; yn ymestyn yn dda rhwng y morddwydydd a heb fod yn llipa; y chwarteri heb raniad; y tethau o faint cymedrol a digon o le rhyngddynt. Y croen yn denau ac ystwyth.

Y Croen, y Got a'r Lliw
Croen: Yn gymedrol drwchus; yn ystwyth. Blew: Trwchus, meddal a gweddol hir. Mae blew cyrliog tynn yn annerbyniol. Lliw: Bydd y lliw yn amrywio o fod yn ddu cochlyd i fod cyn ddued â'r frân. Caniateir ychydig o wyn ar y dorlinell.

Y Tarw Du Cymreig

Golwg Gyffredinol, Teip a Cherddediad
Dyfnder a hyd da, cefn a thorlinell syth, a digon o asgwrn Yn cerdded yn rhwydd.

Y Pen
O hyd byr i gymedrol, talcen llydan a dyfnder da yn yr ên: y llygaid yn fawr, llonydd ac amlwg: y clustiau'n weddol fawr â gorchudd trwchus o flew meddal: y cyrn yn tyfu'n syth o'r pen, yn crymu ychydig tuag ymlaen, yn weddol gryf ac yn grwn ar y gwaelod. Bydd cyrn anifeiliaid ifainc fel arfer yn arw ac o liw dulas tywyll, ond byddant yn llyfnhau wedyn ac yn troi'n lliw gwellt neu ifori â blaenau duon. (Wrth reswm, nid yw'r cyfeiriad at gyrn yn berthnasol i Wartheg Moel)

Y Gwddf
O hyd cymedrol, yn drwchus a chryf â gwar da; blaen y gwddf mor lân â phosibl.

Yr Ysgwyddau
Heb fod yn arw, yn asio'n dda â gweddill y corff, a phont yr ysgwydd heb fod yn sefyll allan.

Y Corff
Yn ddwfn, llydan a helaeth. Cefn syth a lwynau cryf a llydan. Asennau hir a hydwyth; dim pant y tu ôl i'r ysgwydd, a dim ceudod o dan y lwyn. Yn ddwfn yn yr ystlys.

Y cluniau
Yn gymedrol isel, yn grwm a heb fod yn sefyll allan.

Y Chwarteri ôl , Coesau a Thraed
Hir, llydan a dwfn. Y cyfan yn edrych yn grwm yn hytrach na sgwâr ar y top; yn syth i lawr y tu ôl wrth edrych o'r ochr. Y morddwydydd yn llydan a thrwchus, a llawer o gig i lawr i'r garrau. Dylai gosodiad y gynffon fod yn gyfwastad â'r cefn, yn lluniaidd a heb fod yn arw. Y coesau ôl yn syth o'r garrau i'r meilwng. Traed holliach.

Y Croen, y Got a'r Lliw
Croen: Yn gymedrol drwchus; yn ystwyth. Blew: Trwchus, meddal a gweddol hir. Mae blew cyrliog tynn yn annerbyniol. Lliw: Du. Caniateir ychydig o wyn ar y dorlinell y tu ôl i'r bogail. Bydd y lliw yn amrywio o fod yn ddu cochlyd i fod cyn ddued â'r frân.